Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd
Dyddiad: Dydd Mawrth, 1 Hydref 2019
Amser:
09.03 -
10.38
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/5651
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Janet Finch-Saunders AC (Cadeirydd) Michelle Brown AC Neil McEvoy AC Jack Sargeant AC Leanne Wood AC |
Tystion: |
Iwan Prys Jones, Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru Stephen Jones, Cyngor Sir y Fflint Tom Rippeth, Deisebydd Carolyn Thomas, Cyngor Sir y Fflint Mike Webb, Deisebydd |
Staff y Pwyllgor: |
Graeme Francis (Clerc) Ross Davies (Dirprwy Glerc) Samiwel Davies (Cynghorydd Cyfreithiol) |
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i gasglu tystiolaeth ychwanegol arni gan elusennau, cynrychiolwyr busnesau a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu yn ôl at Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth i ofyn am ragor o wybodaeth am y newidiadau y mae'n bwriadu eu cyflwyno drwy'r Bil Trafnidiaeth Gyhoeddus, yn enwedig ynghylch masnachfreinio a phwerau i awdurdodau lleol redeg gwasanaethau bysiau, a'r amserlen a gynlluniwyd ar gyfer cyflwyno'r Bil.
Cytunodd y Pwyllgor i ohirio trafodaeth gychwynnol ar y ddeiseb tan y cyfarfod nesaf er mwyn galluogi Aelodau i drafod gwybodaeth ychwanegol a gafwyd gan y deisebydd yn llawn.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i aros am safbwyntiau’r deisebwyr o ran yr ymateb a gafwyd gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig cyn trafod a ddylid cymryd camau pellach ynglŷn â'r ddeiseb.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu yn ôl at y Gweinidog i ofyn am ymateb i awgrym y deisebydd y dylai tadau newydd gael, neu gael cynnig, asesiad o’u hanghenion iechyd meddwl a chymorth fel rhan o wasanaethau iechyd meddwl amenedigol.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu yn ôl at y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol i ofyn am ei hymateb i'r cynnig y dylai fod hawl i’r cyhoedd a'r wasg recordio ac adrodd ar gyfarfodydd cyngor, gan gynnwys y rhai a gynhelir gan gynghorau tref a chymuned.
Trafododd y Pwyllgor dystiolaeth ychwanegol a chytunodd i aros i Vertex Pharmaceuticals gyflwyno tystiolaeth yn gysylltiedig ag Orkambi i Grŵp Strategaeth Meddyginiaethau Cymru Gyfan, y mae'r Pwyllgor yn deall ei fod ar fin digwydd, cyn gofyn am ragor o wybodaeth.
Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth ychwanegol a chytunodd i ysgrifennu at Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig i:
Trafododd y Pwyllgor dystiolaeth ychwanegol a chytunodd i ysgrifennu yn ôl at y Gweinidog Addysg i ofyn am ei hymateb i'r pryderon a fynegwyd [?] gan y deisebydd ynghylch yr angen i sicrhau bod plant yn gyfarwydd â fformat y profion a'r cwestiynau, yn sgil cyflwyno asesiadau personol ar-lein yn raddol.
O dan Reol Sefydlog 17.24A gwnaeth Jack Sargeant AC ddatganiad ei fod wedi cefnogi'r Llwybr Coch yn y gorffennol.
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Tom Rippeth, ar ran y deisebwyr, a Mike Webb, a oedd yn cynrychioli Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru.
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru a Chyngor Sir y Fflint.
Cytunodd Cyngor Sir y Fflint i roi copi o adroddiad arolygu diweddaraf Pont Sir y Fflint i'r Pwyllgor.
Trafododd y Pwyllgor y sesiynau tystiolaeth blaenorol a chytunodd i ysgrifennu at: